Mae gan yr ysgol G.Rh.A. weithgar sydd bob amser yn croesawu aelodau newydd. Yr agwedd honno lle mae'r C.Rh.A. yn codi arian yw'r un a gaiff ei chydnabod yn fwyaf parod - y prif ddigwyddiadau a ddaw ag arian i'r ysgol yw'r Ffeiriau Haf a Nadolig, gydag Ocsiwn Addewidion yn cael ei threfnu bob dwy flynedd. Gofynnir i bob rhiant gymryd rhan - gofalu am stondinau, rhoi rhoddion o gynnyrch i’w gwerthu ayb. Mae'r digwyddiadau hyn yn ddyddiau allan i'r teulu a rhoddant fwynhad i bawb sy'n cymryd rhan yn ogystal â chodi arian.
Mae'r C.Rh.A. hefyd yn cymryd rhan mewn trefnu digwyddiadau wedi eu noddi h.y. sillafu noddedig, darllen noddedig a bowndio noddedig. Yn aml, defnyddir yr arian a godir i brynu eitemau penodol - h.y. offer cyfrifiadurol, llyfrau, artist preswyl ayb.
Ar adegau eraill, defnyddir yr arian a godir i wella amgylchedd yr ysgol gyfan. Mae ailbeintio tu mewn yr ysgol a'r cynllunio y tu allan yn enghreifftiau o hyn. Mae'r ysgol yn ymwybodol iawn o'r angen i ofalu am yr amgylchedd ac wedi derbyn cynnig i blannu coed ar dir yr ysgol.
Bu cynhyrchu Lliain Sychu Llestri "Ysgol y Faenol" yn ffordd benodol arall o godi arian ar gyfer yr ysgol, lle mae pob disgybl wedi cymryd rhan. Gofynnwyd i bob plentyn yn yr ysgol gynhyrchu hunan-bortread. Yna, lleolwyd y rhain yn y dosbarthiadau a'u hanfon at yr argraffwyr a drodd y cyweithiau celf hyn yn Llieiniau Sychu Llestri.
Er bod codi arian yn agwedd bwysig o'r G.Rh.A, ceir agweddau eraill. Trefnir digwyddiadau cymdeithasol hefyd e.e. Noson Gwis, Dawns Sgubor, Helfa Drysor. Mae'r digwyddiadau hyn yn galluogi staff, rhieni ac weithiau'r plant i gwrdd yn gymdeithasol, ac felly'n rhoi cyfle iddynt ddod i adnabod ei gilydd ac i sefydlu perthynas dda sydd yn sicr er lles addysg y plant.
Cyfeiriad: Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Y Faenol,
Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd LL57 2NN
Ffôn: 01248 352 162 | E-bost: joanna.thomas@faenol.ysgoliongwynedd.cymru