Bwyta’n iach
Brecwast- rydym yn cynnig ar ffurf cylchdro amrywiaeth o frecwast grawn, tôst, crempog, ŵy wedi’i sgramlo. Bydd ffrwythau gwahanol yn cael ei gynnig pob dydd yng nghyd â diod o ddŵr neu lefrith.
Byr bryd
- Mae plant sydd yng ngofal dydd ac yn gorffen am 3 neu 3:30 yn cael dewis amrywiaeth o
ffrwythau gyda diod o ddŵr
- Bydd y plant gofal dydd sydd yn aros yn hwyrach yn cael yn cael byr bryd o unai:ffrwythau
gyda cracyr, caws a iogwrt; pasta gyda ffrwythau; brechdan gyda ffrwythau; bagel gyda
chaws a ciwcymbyr a ffrwyth.
- Cynnigir dŵr yw yfed pob amser.
- Clwb hanner awr- maent yn cael cynnig amrywaieth o ffrwythau yn ddyddiol
- Bydd plant sydd yn dod i’r clwb ar ôl yasgol ac hefyd y plant sydd yn aros ar ôl 3:30 yn y clwb
gwyliau yn cael dewis, mewn cylchrediad wythnosol:
Pasta – plaen, gyda chaws neu saws tomato, neu y ddau
Brechdanau ŵy neu ham gyda ffrwythau
Cracyrs gyda menyn neu gaws, ciwcymbyr, tomato a pupur
Bagel gyda menyn neu gaws a ffrwythau amrywiol
Wrap gyda macrell neu gaws a ffrwythau amrywiol
Bydd diod o ddŵr yn cael ei gynnig ar y bwrdd yn ddyddiol
Os nad yw plenty yn hoffi y byr bryd maent pob tro yn cael cynnig tôst.
Mae plant sydd yn mynychu y gofal dydd a chlwb gwyliau yn dod a bocs bwyd eu hunain. Annogir iddynt fwyta bwydydd iach yn gyntaf pob amser. Gellir cadw eu bwyd yn y oergell os nad oes bloc rhew yn eu bag. Yn ystod tywydd poeth cynnigir fel trît tip tops i’r plant ond mae wastad diod o ddwr ar gael os ydynt eisiau.
